k. y bardd yn ymadel ai feistr Ifor hael
ag yn myned i Wynedd i glera dros enyd
1 Yvydd serchogion oveg
2 Ifor teyrnaidd ior teg
3 myned fal i damvnwyf
4 anodd iawn Wynedd i ddwyf
5 nid myned dauged digel
6 o ddyn yr ailwaith a ddel
7 dau fis yn nwylan Dyfi
8 ni allwn fod hebod ti
9 a galon bedrawglgron bor
10 ni chyfyd yn iach Ifor
11 na llygad graddwlad gryddwlych
12 na llaw na bys lle ni bych
13 nid mawr y grym ym yma
14 nid oedd gall na deall da
15 yr neb a garai or naw
16 diodydd gwin dy adaw
17 [174] fy naf wyt a gyrdaf gwr
18 yn iach dileddach loewddwr
19 rhwydd hynt gyhyfal rhydderch
20 rhagot synwyr wybot serch
21 rhyw ofal llid rhyfel llawn
22 ar heddwch Ifor hyddawn
25 naf koedfedw nwyfau kydfod
26 nef a ffressen kledren klod
23 maith dy ragoriaith gairwir
24 mawr ior teg yr mor ar tir
27 kawn o ddawn a eiddunwyf
28 kyfoethawg ag enwawg wyf
29 o airiau teg o ariant
30 ag aur koeth fal i gwyr kant
31 a drwssiad nid bwriad bai
32 ag arfav ffrengig erfai
33 ovydd gwydd o fedd a gwin
34 o dlyssiau ail Daliessin
35 tirion grair tarian y gred
36 tydi Ifor tad yfed
37 enw teyfyrn ynad hoewfoes
38 wyneb y rhwydddeb ai rhoes